Fe fydd hanner dwsin o Gymry Cymraeg byd y gyfraith a gwleidyddiaeth yn cael eu derbyn i’r Orsedd yng Nghaerdydd eleni.

Mae Elin Jones, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn eu plith, ynghyd ag Eleri Rees, Uwch Farnwr Cylchdaith Cymru, a Barnwr yn Llys y Goron Caerdydd.

Bargyfreithiwr, arweinydd Cylchdaith Cymru a chynrychiolydd Cymru ar Gyngor y Bar, yw Paul Hopkins, a fydd hefyd yn dod yn aelod o Orsedd y Beirdd.

Fe fydd John Davies, cyn-arweinydd Cyngor Sir Benfro a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac sy’n gadeirydd Bwrdd Rheoli Sioe Fawr Llanelwedd, hefyd yn cael ei anrhydeddu.

O fyd ymgyrchu, mae dau enw amlwg yn derbyn anrhydedd eleni – y naill, Elaine Edwards, yn Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymraeg, ac Andrew White yn Gyfarwyddwr Stonewall Cymru (mudiad sy’n amddiffyn hawliau pobol hoyw, lesbiaidd, deurywiol a thraws).

Fe fydd Linda Tomos, arweinydd benywaidd cyntaf y Llyfrgell Genedlaethol a chyn-Gyfarwyddwr Adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru, yn cael gwisg hefyd.