Mae pwyllgorau apêl Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 “tua hanner ffordd” at gasglu eu targed o £300,000. 

Fe ddaeth y cyhoeddiad mewn datganiad gan Gadeirydd Pwyllgor Gwaith y brifwyl, Ashok Ahir, i gyfarfod Cyngor yr Eisteddfod yn Aberystwyth ddydd Sadwrn (Tachwedd 25). 

Er nad oedd yn gallu bod yn bresennol, fe ddarllenwyd ei adroddiad i’r ychydig dros 20 o aelodau yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth gan y Trefnydd, Elen Elis. 

“Mae dros hanner yr arian wedi’i hel erbyn hyn,” meddai, gan gyfeirio at y targed o £300,000 a osodwyd fel ar gyfer pobol Ynys Môn. 

“Mae pwyllgorau apêl Treganna a Pharc Fictoria, er enghraifft, eisoes wedi cyrraedd eu targedau unigol o £35,000… ond y bwriad ydi y bydd digwyddiadau’n dal i gael eu cynnal hyd at yr haf, hyd at yr Eisteddfod ei hun.

“Fyddwn ni ddim yn rhoi’r gorau i godi arian adeg y Pasg, ond yn cario ymlaen reit at yr eisteddfod ei hun …”

Siampên a chwrw’r brifwyl 

Mae pwyllgor apêl Penylan, Concoed, y Rhath a Cathays yn gwerthu poteli o Siampên yr Eisteddfod – gyda label arbennig 2018 – er mwyn codi arian at brifwyl y brifddinas. 

Mae potel o win pefriog Rafflin-Lepitre Premier Cru yn cael ei werthu am £25 y botel, neu fel cas o chwe photel am £130. Mae’r siampên wedi ennill gwobr Her Gwin Rhyngwladol Lyon eleni, yn ogystal â medal aur cystadleuaeth Ella à Table yn 2016. 

Yr wythnos hon, fe fydd Cwrw’r Plwca hefyd yn mynd ar werth er mwyn codi arian at Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Mae’n cael ei gynhyrchu gan Fragdy’r Rhath, ac yn dwyn ei enw gan Heol y Plwca yn yr ardal honno. 

Fe gafodd y cwrw ei lansio mewn noson yng Nghlwb Chwaraeon Mackintosh ger City Road nos Fercher diwethaf, Tachwedd 22. 

Peidiwch â phoeni

Roedd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, yn awyddus i dawelu pryderon rhai pobol sydd eisoes wedi bod yn cysylltu ag ef i ofyn yn lle’n union y bydd gweithgareddau’n cael eu cynnal yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf. 

“Mae pobol wedi bod yn gofyn i mi, ‘Yn lle’n union fydd y Babell Lên’ a ‘Lle fydd y Lle Celf’,” meddai wrth y Cyngor yn Aberystwyth. “Mi faswn i’n licio lleddfu ofnau rhai trwy ddweud y bydd pob peth oedd ar Faes Ynys Môn yn digwydd yng Nghaerdydd hefyd. 

“Mi fydd hi’n eisteddfod wahanol iawn, wrth gwrs, ac rydan ni’n dal mewn trafodaethau ynglyn â defnyddio ardal y Bae y flwyddyn nesaf, ond mi fydd yr Eisteddfod yn cynnig pob peth oedd ym Môn eleni, yn eisteddfod 2018.”

Mae’r trafodaethau hynny, meddai Elfed Roberts wedyn, yn cynnwys gofyn am ganiatad i ddefnyddio’r Bae gan y degau o unigolion a chwmnïau gwahanol sy’n berchen ar wahanol rannau o Fae Caerdydd.