Mr Urdd a Rapsgaliwn ar lwyfan yr Urdd eleni
Bydd Eisteddfod yr Urdd 2014 yn cael ei chynnal yn Meirionnydd yn 2014.

Daw’r penderfyniad yn dilyn pleidlais unfrydol mewn Cyfarfod Cyhoeddus yn Ysgol y Gader, Dolgellau nos Fercher 29ain o Fehefin.

Roedd oddeutu 100 o bobl yn bresennol yn y cyfarfod a gafodd ei alw yn sgil trafodaethau rhwng Urdd Gobaith Cymru a gwirfoddolwyr a chefnogwyr y mudiad yn yr ardal.

Cynhelir yr Eisteddfod rhwng 26 a 31 o Fai 2014.

Bydd cyfarfodydd  er mwyn sefydlu pwyllgorau testyn megis Cerdd Dant, Llefaru a Dawns a phwyllgorau mwy technegol eu naws megis y Maes a Chyswllt Lleol yn cael eu cynnal ar nos Fercher 21ain o Fedi am 6.30 a 7.30 o’r gloch, eto yn Ysgol y Gader, Dolgellau.

Bu Eisteddfod yr Urdd ym mharthau Meirionnydd y tro diwethaf yn 1994, pan oedd y Maes nepell o ganol tref Dolgellau.

Yn yr Eisteddfod honno y perfformiwyd y Sioe Gerdd Mela, gan Linda Gittins, Penri Roberts a Derec Williams am y tro cyntaf a Chadeirydd y Pwyllgor Gwaith oedd Elfyn Pritchard.

“Roedd cael pleidlais unfrydol o blaid dod ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i Feirionnydd yn 2014 yn galonogol iawn ac roedd y croeso i’r ŵyl yn amlwg iawn oddi fewn i neuadd Ysgol y Gader,” meddai Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd.

“Mae sicrhau cefnogaeth y bobl leol yn hanfodol i lwyddiant unrhyw Eisteddfod ac fe ymddengys o’r cyfarfod fod y gefnogaeth yn gryf ac edrychwn ymlaen at gydweithio’n agos gyda phobl Meirionnydd dros y blynyddoedd nesaf.

“Cynhelir y cyfarfodydd cyntaf ar yr 21ain o Fedi ac edrychwn ymlaen at weld cynifer o bobl a sy’n bosibl yn dod draw i gyd-drafod.”