Eisteddfod Ysgol Farddol Caerfyrddin 2010

 

Heddwyn Jones - Bardd y Gadair
Heddwyn Jones - Bardd y Gadair

Nos Fawrth, Ionawr 11eg cynhaliwyd Eisteddfod Ysgol Farddol Caerfyrddin dan arweiniad Y Prifeirdd Tudur Dylan Jones a Mererid Hopwood.

Eisteddfod lenyddol yw hon sy’n rhoi cyfle i aelodau’r Ysgol Farddol gystadlu yn erbyn ei gilydd.

Eleni, croesawyd y Prifardd Idris Reynolds atom i feirniadu’r cystadlaethau; fe wnaeth hynny gyda’i sirioldeb a’i graffter arferol.

Mae’r dosbarth yn glynu at yr hen Galan ac felly eisteddfod 2010 oedd hon. Bardd y gadair eleni oedd Heddwyn Jones.

Roedd hi’n gystadleuaeth dda a derbyniwyd saith cywydd hynod safonol. Hwn oedd yr ail dro i Heddwyn gipio prif wobr y dosbarth a llwyddodd i wneud hynny gyda chywydd Ystwyth a thelynegol yn cyfeirio at ddilyniant ar dir y fferm deuluol a phwysigrwydd cynnal y llinyn etifeddol honno.

Mae’r cywydd yn cloi’n rymus gyda’r ddau gwpled canlynol.

Ond aros ‘nhad, Rhos Y Nant,

A wêl wyneb dilyniant.

Heddi nhad mi ddo’i yn ôl,

I iro’th weddi hwyrol.

Enillydd Y Fwyell am y gerdd orau oddi gerth cerdd y gadair oedd Aled Evans am y pennill telyn hwn:

Y mae rhai yn dal i ofyn,

Pam taw’r nos yw awr y gwyfyn,

Eraill ŵyr ac fe wn inne

Bod eisie nos i weld y gole.

Roedd hi’n dda cael croesawu dau enillydd newydd i’n plith eleni wrth i Angharad Thomas ac Ema Mac Giolla Chríost gipio prif wobrau’r ‘cywfeirdd’, sef cystadlaethau ar gyfer rheini sy’n newydd i’r gynghanedd.

Un o uchafbwyntiau’r Eisteddfod oedd cystadleuaeth yr englyn. ‘Cracyr’ oedd y testun a Geraint Roberts aeth â hi gyda chracyr o englyn: Wrth uno dau chwerthiniad – â dwy law yn dal hwyl y dathliad, gwelwyd baban trwy’r taniad – geni’r Un mewn tegan rhad.

Non Vaughan Williams oedd awdur y limrig buddugol ac hynny am ddarn a ddisgrifiwyd gan y beirniad fel cynnyrch mwyaf abswrd y gystadleuaeth.

Dyma’r limrig: Mae ‘na fenyw gwic yn Kampur Sy’n gwneuthur gwd iws mas o’i gŵr, A phlwy’ Bancyfelin Mewn sychder ers meitin Ei brostret a roes i’r Bwrdd Dŵr.

Meirion Jones enillodd am y cwpled a’r hir a thoddaid gorau, Geraint am y cwpledyn a braf yw nodi bod gwaith Siw Jones, Huw Edwards a Peter Thomas yn agos at y brig.

Unwaith eto eleni, roedd y beirdd buddugol yn derbyn englynion wedi’u fframio’n ddestlus a hardd.

Carai’r Ysgol Farddol ddiolch i Tudur Hallam, Hywel Griffiths, Emyr Lewis, T.James Jones, Idris Reynolds, Karen Owen, John Gwilym Jones, Dylan a Mererid am gyfrannu’u gwaith yn wobrau i’w trysori.

Mae ail hanner tymor yr Ysgol Farddol bellach wedi agor a byddwn yn cwrdd nesa’ ar nos Fercher, Ionawr 26ain yn nhafarn y Tanerdy, Caerfyrddin. Mae croeso i aelodau newydd sydd am ymuno â ni. Aled Evans