Chris Williams (Llun: Amgueddfa Cymru)
Mae’r crefftwr a fydd yn gyfrifol am ddylunio a chreu’r gadair ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 wedi’i benodi.

Cerflunydd  o Bentre, Rhondda, yw Chris Williams, sydd yn gweithio’n bennaf gyda phren ac yn cael ysbrydoliaeth o “dirluniau daearol a seryddol.”

Bydd y gadair yn cael ei chreu mewn dau leoliad – sef ei weithdy yn Ynyshir, Rhondda, ac yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan.

Mae’r gadair ar gyfer 2018 wedi ei noddi gan Amgueddfa Cymru, a’r nod yw nodi pen-blwydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn 70 oed.

“Balch iawn”

“Rydym yn falch iawn i benodi Chris ac yn edrych ymlaen at weld y broses yn datblygu dros y flwyddyn nesaf,” meddai Nia Williams, Cyfarwyddwr Addysg ac Ymgysylltu Amgueddfa Cymru.

“Bydd Chris yn creu elfennau o’r Gadair yn Gweithdy, sef adeilad newydd pwrpasol yn Sain Ffagan a bydd ymwelwyr i’r Amgueddfa yn gallu dilyn ei waith yn ystod y broses o greu.”