RSS

Golwg360

MwyCau 

Llŷr Gwyn Lewis yn ail yng nghystadleuaeth y Gadair

Awst 12, 2017 12:38 Diweddarwyd am 23:43


Fe ddaeth i’r amlwg mai Llŷr Gwyn Lewis ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni.

Wrth draddodi’r feirniadaeth, dywedodd yr Athro Peredur Lynch ei fod yn awyddus i gadeirio’r cystadleuydd oedd wedi defnyddio’r ffugenw ‘Merch y Drycinoedd’.

Ond ‘Gari’ – neu Osian Rhys Jones - aeth â hi yn y pen draw gan fod y ddau feirniad arall, Huw Meirion Edwards ac Emyr Lewis yn ei ffafrio yntau.

Llŷr Gwyn Lewis

Un o Gaernarfon yw Llŷr Gwyn Lewis yn wreiddiol, ac fe astudiodd ym mhrifysgolion Caerdydd a Rhydychen.

Fe gwblhaodd ddoethuriaeth ar waith T Gwynn Jones a W B Yeats.

Ar ôl cyfnod yn ddarlithydd yn Abertawe a Chaerdydd, mae bellach yn olygydd adnoddau gyda CBAC yng Nghaerdydd.

Daeth i frig categori Ffeithiol-Greadigol Llyfr y Flwyddyn yn 2015 am ei gyfrol Rhyw Flodau Rhyfel.

Ymddangosodd ei gyfrol farddoniaeth, Storm ar wyneb yr haul (Barddas) ar restr fer y categori barddoniaeth.

Yn gynharach eleni, cafodd Llŷr ei ddewis yn un o ddeg o Leisiau Newydd Ewrop, fel rhan o brosiect Ewrop Lenyddol Fyw.

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.