Mi fydd yn rhaid i ymwelwyr yr Eisteddfod deithio ar fysys gwennol heddiw eto, er mwyn cyrraedd y Maes.

Cafodd y sustem bysys gwennol ei chyflwyno fel mesur brys ddydd Llun wedi i law trwm ddydd Sul ddifetha cyflwr y meysydd parcio ger y Maes.

Roedd yr Eisteddfod wedi gobeithio dychwelyd i’r drefn parcio wreiddiol erbyn diwedd yr wythnos.

Bydd yn rhaid i ymwelwyr yr Eisteddfod barcio ar safle Sioe Mona a Stad Ddiwydiannol Mona a chael eu cludo am chwe milltir gan fws i’r Maes.

Ond mae modd i bobol anabl barcio yn Ysgol Uwchradd Bodedern a chael eu cludo oddi yno draw i’r Maes.