Eiran James, un o'r sylfaenwyr (Llun Golwg360)
Fe fydd menter i greu llety Cymraeg ynghanol tre’ Gymrecia’ Cymru yn symud ymlaen i’r cam nesa’ ar ôl derbyn nawdd o £128,000 trwy un o gynlluniau’r Llywodraeth.

Ond mae’r cwmni cymunedol y cefn i’r fenter yn dal i apelio am gyfranddalwyr i godi tua £50,000 arall er mwyn gorffen y gwaith o ddatblygu’r eiddo yng Nghaernarfon.

Roedd yna barti bach ar faes yr Eisteddfod ynghynt yn yr wythnos wrth i gefnogwyr Llety Arall ddathlu’r newyddion am y nawdd sy’n dod trwy Gronfa Les Cymunedol y Llywodraeth.

Y cynllun

Bwriad Llety Arall yw creu amrywiaeth o stafelloedd aros yng nghanol hen dref Caernarfon, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddenu teuluoedd o ddysgwyr ac eraill sydd â diddordeb yn yr iaith Gymraeg.

Maem hawl cynllunio eisoes wedi’i gael i newid defnydd hen siop offer dringo yn Stryd y Plas ac fe fydd yr arian nawdd yn golygu bod cwmni Llety Arall Cyf yn gallu prynu’r adeilad a bwrw ati gyda cham cynta’r gwaith addasu.

Fe fyddai hynny’n cynnwys creu siop ar y llawr isa’ er mwyn dechrau dod ag incwm rhent i mewn i’r fenter – yn y pen draw fe fydd amrywiaeth o stafelloedd aros ac ystafell gyfarfod at ddefnydd grwpiau o ymwelwyr a grwpiau cymunedol.

Cyfrannau

“Ryden ni eisoes wedi codi £52,500 trwy werthu cyfrannau,” meddai un o sylfaenwyr y fenter, Eirian James, o siop lyfrau Palas Print sydd gyferbyn â’r adeilad.

“Y bwriad ydi dibynnu cyn lleied â phosib ar arian cyhoeddus.”

Mae cyfrannau’n cael eu gwerthu am £250 neu £500 i gwmnïau ac fe fydd gan bob cyfranddalwr yr un hawliau pleidleisio yn y fenter sydd ar ffurf Menter Er Budd Cymunedol.