Athro Deri Tomos (Llun: golwg360)
Mae enillydd Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol wedi beirniadu’r sawl sy’n dewis i’w plant astudio pynciau gwyddonol yn Saesneg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Yn ôl Deri Tomos o Lanllechid, Gwynedd, does ganddo “ddim amynedd â phobol sy’n teimlo bod rhaid colli eu mamiaith er mwyn troi’n wyddonwyr”.

Dywed bod y ddadl wedi’u hennill mewn ysgolion yn y dde ddwyrain ond bod angen newid agweddau yn y gogledd orllewin yn enwedig, a bod y sefyllfa wedi newid ers y dyddiau cynnar pan “doedd bron dim Gwyddoniaeth drwy’r Gymraeg yn yr ysgolion”.

“Er, mae’n rhaid dweud [gyda] TGAU, r’yn ni’n dal i ymladd y frwydr i drio perswadio pobol does dim angen newid i’r Saesneg, yn arbennig yn y gogledd-orllewin,” meddai.

“Yn fy ardal enedigol i fel yn y de, mae’n ffantastig, digonedd o bobol yn gwneud Lefel A Ffiseg, Mathemateg mewn ysgolion yng Ngwent a Morgannwg…

“Dw i wedi byw yma ers deugain mlynedd yn y gogledd ym Mangor a dyma le mae’r frwydr, ond rydyn ni’n ennill a diolch i’r Eisteddfod o galon am hybu’r math yma o beth.”

“Y Gymraeg yn rhan o Wyddoniaeth”

“Dw i’n methu deall y busnes bod rhaid gwneud e’n Saesneg, be’ mae gweddill y byd yn gwneud? Faint o bobol y byd sy’n gwneud Gwyddoniaeth drwy’r Saesneg?,” ychwanegodd y cyn-Athro ym Mhrifysgol Bangor.

“Dw i wedi gweithio dros y byd ac maen nhw’n dysgu Saesneg yn yr un ffordd â ni ac i ddweud y gwir, mae gennym ni fantais, mae’n gymharol hawdd i ni ddysgu Saesneg, ond dyw hwnna ddim yn esgus o gwbl i ni anghofio mai Cymraeg yw ein hiaith gyntaf ni.

“Aeth fy mab i Gaerdydd i’r Brifysgol, ac fe gymrodd e ychydig, mis neu ddau, i ymdopi â gwersi drwy’r Saesneg, ond mae e’n ddoctor nawr ac mae e’n gallu cyfathrebu mewn o leia’ dwy iaith.

“Does gen i ddim amynedd â phobol sy’n teimlo bod rhaid colli eu mamiaith er mwyn troi’n wyddonwyr.

“Mae’r Gymraeg yn gymaint rhan o Wyddoniaeth ag y mae Gwyddoniaeth yn rhan o’r Gymraeg.”