Stifyn Parri (Llun: golwg360)
Mae Stifyn Parri wedi sôn am y siom o beidio â chael beirniadu rhagbrofion cystadleuaeth yr unawd o sioe gerdd, oherwydd eu bod yn cyd-daro ag amseriad ei sioe-un-dyn ar y Maes.

Yn wreiddiol, roedd y canwr o’r Rhos wedi gobeithio beirniadu rhagbrofion y gystadleuaeth ‘Unawd o sioe gerdd dan 19 oed’ gyda Connie Fisher ddydd Mawrth.

Ond, dfe daeth hi i’r amlwg bod ei sioe un dyn, Cau dy Geg yn cyd-daro â’r rhagbrofion ac felly bu’n rhaid Iddon Alaw Jones gymryd ei le wrth ddewis y rheiny oedd yn cael llwyfan neithiwr.

“Mi oedd yna gymaint o bobol eisiau bod yn y rhagbrofion ,a wnes i weithio allan pan ges i’r amserlen gan yr Eisteddfod – hyd yn oed gyda thri munud a hanner i bob cân, un ar ôl y llall – y basa’r rhagbrofion wedi crasho i mewn i fy sioe,” meddai Stifyn Parri wrth golwg360.

“Felly, beth wnaeth yr Eisteddfod benderfynu oedd bod Iddon yn mynd i fod efo Connie yn y rhagbrofion a finnau’n ymuno efo’r ddau, yna a’r tri ohonom ni yn dewis yn y diwedd.

“Felly mi oedd yna continuity ond oeddwn i’n gutted achos dw i’n licio gweld pob un ohonyn nhw… ond oedd o’n amhosib.”

Er ei siom mae Stifyn Parri yn derbyn bod yr Eisteddfod yn “monster i’w drefnu” ac yn nodi “does neb wedi marw”.

Di-sgript a di-flewyn ar dafod

Bydd Stifyn Parri yn perfformio unwaith eto yn Theatr Maes  heddiw, ac er bod cynnwys ei sioe yn medru bod yn lliwgar nid yw Stifyn Pari yn bwriadu cadw dim yn ôl. 

“Mae rhai pobol yn dweud bod o’n raunchy. Mae’r sioe yn ddi-sgript, yn ddi-flewyn ar dafod a bob hyn a hyn yn ddigywilydd,” meddai. “Ond oedd y ‘Steddfod wedi bwcio’r sioe i fod yma,” meddai.

“Er bo fi yn teilwra ar gyfer pwy bynnag cynulleidfa sydd genna’i mae genna’i berffaith hawl achos mai sioe un dyn ydy o. Galla’i wneud be licia’i. Felly beth bynga sydd yn dod allan o’ ngheg i, dyna beth maen nhw’n cael.”