Rhestr fer Dysgwr y Flwyddyn 2017
Daeth Emma Chappell o Ddeiniolen
i’r brig yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn neithiwr mewn “cystadleuaeth agos iawn”, yn ôl un o’r beirniaid.

Bu R Alun Charles o Gaerfyrddin yn feirniad ar y gystadleuaeth gyntaf un yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 1983, a dywed fod y “safon wedi codi’n aruthrol” ers hynny.

O blith y pedwar oedd ar y rhestr fer eleni, dywedodd fod “pob un mewn ffordd neu’i gilydd yn cwrdd â’r gofynion.”

“Mae’r gystadleuaeth wedi dod yn llawer mwy poblogaidd, ac yn fwy pwysig ac yn ennyn fwy o sylw,” meddai wrth golwg360.

Ac wrth draddodi ei feirniadaeth mewn seremoni yng ngwesty’r Tre-ysgawen, Llangefni dywedodd fod yn “rhaid annog mwy o siaradwyr newydd os ydym am gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.”

‘Safon wedi codi’

Wrth gofio cystadleuaeth gyntaf Dysgwr y Flwyddyn yn 1983, dywedodd mai ond un sesiwn oedd bryd hynny.

“Cystadleuaeth fach oedd hi bryd hynny,” meddai “ond erbyn hyn mae sawl sesiwn wedi digwydd – cyfle i’w holi nhw mewn gwahanol amgylchiadau gyda digwyddiadau ffilmio a chyflwyniadau.”

“Mae’r peth wedi newid yn llwyr, ond yn bwysicach fyth mae’r safon hefyd wedi codi,” meddai.

Y beirniaid eraill oedd y gyflwynwraig Nia Roberts a Jenny Pye o Ynys Môn a enillodd wobr dysgwr y flwyddyn ei hun yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 1988.

 Emma Chappell

Dysgodd Emma Chappell Gymraeg yn 2005 ar ôl cwrdd a’i phartner Arwel, ac mae’n defnyddio’r iaith bob dydd yn ei gwaith ym Mhrifysgol Bangor ac ar yr aelwyd gyda’i meibion, Deion a Guto.

Mae’n ennill tlws yn rhoddedig gan Rhian a Harri Pritchard, Cemaes, a £300 ynghyd â chael ei derbyn i’r Orsedd y flwyddyn nesaf.