Sonia Edwards
Mae ennill y Fedal Rhyddiaith am yr ail dro yn Ynys Môn yn brofiad sydd yr “un mor arbennig â’r tro cyntaf” yn ôl Sonia Edwards.

Wrth siarad â golwg360 dywedodd bod “gwres y gynulleidfa” i’w deimlo yn y seremoni wobrwyo wrth iddi ennill y wobr am ei chyfrol o rhyddiaith greadigol.

Mae’n debyg mai dim ond dwywaith y mae Sonia Edwards  wedi cystadlu am y wobr, a’r ddau dro yn Ynys Môn. Dywed mai ei sir enedigol oedd wedi ei hysgogi i gystadlu eto eleni.

Thema’r wobr eleni oedd ‘Cysgodion’, ac mi aeth Sonia Edwards i’r afael a’r thema trwy ymafael ag agweddau tywyll pobol. Rhannu Ambarél yw enw’r casgliad o straeon, ac enw un o’r straeon hefyd.

“Wnes i feddwl am gysgodion o safbwynt bywydau pobol,” meddai Sonia Edwards.

“Colled a galar, a hyd yn oed tor-priodas a serch a chariad yn eu gwahanol ffurfiau. Maen nhw’n gallu bod yn llawn cysgodion yn aml iawn.

“Mae’r ferch yn y stori gyntaf wedi colli ei chymar, ac mae’n meddwl am eu bywydau nhw gyda’i gilydd fel rhannu ymbarél. Achos mae’n gamp rhannu ambarél â rhywun a’i gael o’n iawn.

“Mae fel rhyw goreograffi bywyd os liciwch chi. Eich bod yn stepio yr un fath ac mewn sinc â’r person yna.”