Roedd y penderfyniad i atal Gwobr Goffa Daniel Owen yn un  “anodd ac yn rhwydd” yn ôl un o feirniaid y wobr.

Wrth siarad â golwg360 dywedodd Caryl Lewis bod “problemau strwythurol” gyda nifer o’r nofelau, a bod diffyg “safon” yn y gystadleuaeth eleni.

Ychwanegodd mai gwneud cam â’r cystadleuwyr fyddai gwobrwyo neb oedd yn is na’r safon.

‘Gwneud cam’

“Mae penderfyniad fel hyn yn anodd ac yn rhwydd,” meddai Caryl Lewis wrth golwg360. “Mae’n anodd gorfod ei wneud e, ond os nad oes nofel yn cyrraedd y safon rydych yn gwneud cam â’r nofelydd hynny wrth adael i’r nofelydd yna ennill.

“Ac efallai y byddai’n well o lawer o fod wedi’i ei olygu ar gyfer y dyfodol.”

“Mae yna bwynt yn dod lle mae’n rhaid i chi sylweddoli nad cystadlu yn erbyn ei gilydd mae’r nofelau yma, ond cystadlu yn erbyn nofelau sydd wedi ennill y Daniel Owen yn y gorffennol.”

Tony Bianchi

Rheswm arall oedd esiampl Tony Bianchi, y trydydd beirniad oedd wedi marw ychydig cyn yr Eisteddfod.

“Be dw i’n edmygu am Tony yw mai dyna’r fath ymroddiad a’r math broffesiynoldeb [oedd ganddo] hyd y diwedd,” meddai Caryl Lewis.

“Oherwydd hynny dw i’n meddwl ei bod hi’n gwbl addas ein bod ni wedi atal hi.”