Er y mwd, fe fu dros 16,000 yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Modedern heddiw (dydd Llun, Awst 7).

Mae hynny bron i ddwy fil o bobol yn fwy na nifer Y Fenni y llynedd, ond mil a hanner yn llai na nifer ymwelwyr y dydd Llun ym Meifod.

16,014 ydi’r ffigwr swyddogol ar gyfer heddiw, a dyma sut y mae’n cymharu â’r blynyddoedd diwethaf:

Y Fenni, 2016 – 14,092

Meifod, 2015 – 17,683

Llanelli, 2014 – 16,285

Dinbych, 2013 – 15,754

Llandw, 2012 – 16,121

Wrecsam, 2011 – 16,048

Glynebwy, 2010 – 15,461

O ychwanegu nifer heddiw at nifer ymwelwyr dydd Sadwrn (15,831), mae cyfanswm yr eisteddfodwyr hyd yn hyn yn 31,845.