Gwion Hallam a'i Goron (Llun Golwg360)
Barddoni gyda phobol a dementia a ysbrydolodd enillydd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn.

Ac yn ôl Gwion Hallam o’r Felinheli ger Caernarfon, roedd hynny ar ôl bron 14 o flynyddoedd heb farddoni llawer – ers dod yn agos at ennill y Goron yn 2003.

Yn ôl y beirniaid, fe enillodd mewn cystadleuaeth “safonol iawn” am “ymdrin yn gynnil o feistrolgar a sensitif ag un o fendithion duaf ein dydd”.

‘Braint’

Yn ôl y bardd, doedd o ddim wedi barddoni llawer ers dechrau magu teulu ac ers dod yn agos at ennill Coron Meifod yn 2003. Fe newidiodd hynny pan fu’n gweithio yn fardd preswyl gyda phobol â dementia yng nghartref Bryn Seiont Newydd yng Nghaernarfon.

Yno, roedd yn annog trigolion y cartref i farddoni – roedd “y fraint o’u hadnabod nhw” a gwrando arnyn nhw yn ddigon i’w sbarduno i farddoni eto, meddai.

Un o’r cystadlaethau gorau

Roedd wyth o feirdd yn y dosbarth cynta’ gyda phryddestau – cerddi hir – ar y testun Trwy Ddrych; yn ôl y beirniad M. Wynn Thomas yn awgrymu mai dyma un o’r cystadlaethau gorau erioed.

Er fod un beirniad, Glenys Mair Roberts, o blaid bardd arall roedd hithau’n hapus i goroni Gwion Hallam dan y ffugenw elwyn/ annie/ janet/ jiws.

Mae’r fuddugoliaeth heddiw yn cyflawni dwbl deuluol – fe enillodd ei frawd, Tudur Hallam, y Gadair yn 2010. Fe gafodd ei fagu yn Rhydaman.