Mae’r Archdderwydd wedi rhybuddio rhag i’r genedl gael ei rhannu, yn ei anerchiad o’r Maen Llog ar faes y brifwyl heddiw.

Gan gyfeirio at y broses o adael Ewrop, Brexit, mae Geraint Llifon yn rhybuddio “rhag i Brexit droi yn ‘break it‘ – a hynny er i etholaeth Mon ei hun bleidleisio o blaid torri’n rhydd o’r Undeb Ewropeaidd.

Cyfeiriodd arweinydd Gorsedd y Beirdd wedyn at yr eithafwyr sy’n camddefnyddio crefydd er mwyn ceisio rhannu pobol. Mae angen inni sicrhau nad ydyn nhw’n llwyddo, meddai’r Archdderwydd wedyn.

“Dewch i ni aros efo’n gilydd er mwyn gwarchod ein pethau gorau,” meddai wedyn.

Mae