Pwll mawr ar y Maes
Mae glaw ddoe yn dal i achosi trafferthion i eisteddfodwyr ym Môn heddiw.

Gyda thraffig o’r tir mawr yn cael ei ddargyfeirio i faes parcio Sioe Mon yn Mona, gyda’r disgwyl i ymwelwyr gymryd bws oddi yno i’r Maes, mae yna gwynion nad oes digon o gerbydau i gario pobol. Tri bws bob chwarter awr ydi hi ar hyn o bryd.

Mae cyflwr y maes parcio yn wlyb iawn, a rhai o’r ceir gyrhaeddodd ar gyfer y Gymanfa nos Sul yn dal i fod yn sownd yn y mwd. Mae traffig gogledd Ynys Môn yn cael ei ddargyfeirio bellach i faes parcio gwneud ar dir Ysgol Uwchradd Bodedern.

Ond mae cyflwr y maes ei hun hefyd yn peri trafferthion – yn enwedig i’r ansad ac i’r rheiny sydd wedi dod ar feic neu ar sgwter anabledd.

Ar hyn o bryd, mae’r awyr yn las a’r gwynt yn fwyn, a’r gobaith ydi y bydd hyn yn sychu rhywfaint ar y tir dan draed.