Y rhestr fer...
Ymhen wythnos fe fydd enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn.

Mae’r pedwar sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni â phrofiadau gwahanol o ddysgu’r iaith, gan gynnwys un ddynes sy’n wreiddiol o’r Almaen.

Symudodd Daniela Schlick i Gymru ddwy flynedd ar ôl cael ei “swyno” gan y wlad wedi iddi ymweld â Chymru ar ei gwyliau.

Erbyn hyn, mae Daniela Schlick yn byw ym Mhorthaethwy ac wedi cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol o’r blaen yn y gystadleuaeth llefaru i ddysgwyr ac mae’n aelod o gôr Dros y Bont.

Wythnos tan y seremoni

Ymysg y cystadleuwyr eraill mae Hugh Brightwell sy’n byw yn Ellesmere Port yn Sir Gaer. Dysgodd Gymraeg drwy wefannau fel Memrise a thrwy ddosbarthiadau nos ac mae’n ymddiddori mewn hanes Cymru ac archaeoleg.

Daw Emma Chappell o swydd Hertfordshire yn wreiddiol ac mae wedi dysgu Cymraeg ar ôl symud i Gymru lle mae’n byw yn Neiniolen ar lethrau’r Wyddfa. Esbonia ei bod yn defnyddio’r gwaith ar yr aelwyd gyda’i meibion ac yn ei gwaith ym Mhrifysgol Bangor.

Dysgodd Richard Furniss o Langefni Gymraeg yn 2005 a dywed ei fod bellach yn hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg mewn sioeau a gigs Cymraeg.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi nos Fercher, Awst 9, a’r beirniaid eleni yw Jenny Pye, R Alun Charles a Nia Roberts.