Mae’r parc yn Lloegr sydd wedi bod yn gartref i Eisteddfod Genedlaethol Cymru dair gwaith, wedi bod yn paratoi at benwythnos i gofio Hedd Wyn.

Mae Parc Penbedw wedi bod yn glanhau’r garreg arbennig sydd wedi’i gosod yno i nodi lle cynhaliwyd ‘Eisteddfod y Gadair Ddu’ ganrif yn ôl – y gadair a enillwyd gan Hedd Wyn, dan y ffugenw ‘Fleur de Lys’.

Roedd y dyn 30 oed o Drawsfynydd wedi marw ym mrwydr Cefn Pilkem ar Orffennaf 31 y flwyddyn honno.

A dyna pam y mae arysgrif ddwyieithog newydd wrth fôn y golofn sydd yno, yn darllen “Er cof am HEDD WYN, Bardd y Gadair Ddu, syrthiodd ar Pilkem Ridge 31-7-1917.

Penwythnos o gofio yn y Parc

I nodi canrif union ers y seremoni, fe fydd awdurdodau Cilgwri yn cynnal tridiau o ddigwyddiadau i gofio canrif ers i awdl ‘Yr Arwr’ gipio’r Gadair Ddu yn ystod penwythnos Medi 8-10 eleni.

Er na fydd Gorsedd y Beirdd yn cymryd rhan yn y digwyddiadau, mae disgwyl i’r Archdderwydd Geraint Llifon fod yn bresennol i gynrychioli’r beirdd.

Fe agorwyd Parc Penbedw ar Ebrill 5, 1847, ac mae’n cael ei ystyried y parc cyhoeddus cyntaf drwy’r byd i gyd i gael ei gynnal gan arian cyhoeddus. Parc Penbedw oedd cartref y brifwyl Gymraeg ddwywaith yn olynol yn 1878 ac 1879, ac yna ym Medi 1917.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, fe gafodd rhan o’r parc ei ddefnyddio i hyfforddi 3ydd Bataliwn y Cheshire Regiment. Fe fu recriwtiaid yn aros ym marics Penbedw ar Grange Road West.

Ac yno, at y Cheshire Regiment y bu gwrthwynebwyr cydwybodol y Rhyfel Mawr yn cael eu hanfon fel rhan o’u cosb, oherwydd bod y gatrawd yn cael ei hystyried yn un gorfforol a chaled.