Ni fydd Y Gorlan yn rhan o drefniadau Maes B yn Eisteddfod Môn eleni.

Mewn datganiad ar eu ffrwd Trydar mae’r Gorlan wedi cyhoeddi nad yw pwyllgor trefnu’r Eisteddfod yn “dymuno” eu gwasanaeth eleni ac mi fydd yr awenau’n cael eu trosglwyddo i “gwmnïau proffesiynol.”

Mae’r Gorlan yn gyfarwydd i nifer sydd yn mynychu’r maes ieuenctid fel safle sydd yn darparu bwyd a man i gymdeithasu, ac maen nhw wedi bod â safle yno ers blynyddoedd.

Yn y datganiad mae’r grŵp Cristnogol yn diolch eu gwirfoddolwyr ac yn datgan eu bod yn “awyddus i ganmol” yr Eisteddfod ar gymryd camau i ddiogelu mynychwyr y maes.

Er hynny maen nhw’n ychwanegu eu bod yn “siomedig iawn” â’r penderfyniad “wedi degawdau o wasanaeth gwirfoddol o’r safon uchaf.”

Gobeithion

“Mae amcanion y Gorlan wedi bod yn glir o’r dechrau cyntaf; i ddarparu gwasanaeth a gofal i bobol ifanc Cymru sy’n mynychu Maes B am fod cariad Iesu Grist yn ein cymell ni i wneud hynny,” meddai’r datganiad.

“Bob blwyddyn yn ddi-ffael rydym wedi llwyddo i wneud hynny, a gobeithiwn gael cyfle i barhau’r gwaith ym Maes B yn y blynyddoedd i ddod.”

“Er lles ein mynychwyr”

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dweud eu bod wedi penderfynu “cydweithio â grŵp lleol i’r ardal” yn sgil argymhelliad gan adroddiad gwerthuso.

“Roedd edrych ar y gwasanaeth gofal a lles ym Maes B yn un o argymhellion adroddiad gwerthuso Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau y llynedd,” meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Edrychwyd ar yr hyn a gynigir ar hyn o bryd a sut y gellir ei ddatblygu er lles ein mynychwyr yn y dyfodol.  Penderfynwyd cydweithio gyda grŵp sy’n lleol i ardal yr Eisteddfod eleni, ynghyd ag atgyfnerthu rôl y gwasanaeth sy’n gallu cynnig cymorth cyntaf.

“Rydym yn gwerthfawrogi’r gwaith gwerthfawr a wnaethpwyd gan wirfoddolwyr Y Gorlan dros y blynyddoedd, ac yn dymuno’n dda iddyn nhw yn y dyfodol.”