Eisteddfod Ryngwladol Llangollen Llun: Gwefan yr Eisteddfod
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn dathlu’r 70 eleni ac mae’r dathliadau’n cychwyn heno gyda’r Gyngerdd Agoriadol.

O dan arweinyddiaeth cyn-Gyfarwyddwr Cerdd yr Eisteddfod, Owain Arwel Hughes, bydd y gyngerdd yn ddathliad o bres a lleisiau yng nghwmni pedwar côr meibion, Band Pres byd enwog y Cory a’r unawdydd gwadd, Meinir Wyn Roberts.

Y pedwar côr – a fydd yn cyfuno i greu lleisiau o 200 – fydd Côr Meibion Rhos, Côr Meibion Canoldir a dau gôr a ymddangosodd yn yr Eisteddfod gyntaf un yn 1947: Côr Meibion Fron a Chôr Meibion Colne Valley.

Mae’r gyngerdd yn cael ei chynnal ym Mhafiliwn yr Eisteddfod gan gychwyn am 7:30yh nos Lun, 3 Gorffennaf.

Bydd S4C yn darlledu o’r Eisteddfod rhwng 3-9 Gorffennaf.