Ashok Ahir yw Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018
Mae disgwyl i bobol heidio i ganol Caerdydd yfory wrth i ŵyl Cyhoeddi Eisteddfod Caerdydd gael ei chynnal er mwyn croesawu Eisteddfod 2018 i’r ardal.

Fel rhan o’r dathlu mi fydd gorymdaith draddodiadol yn ymlwybro trwy’r ddinas o’r Amgueddfa Genedlaethol hyd at Neuadd y Ddinas, lle fydd seremoni’r cyhoeddi yn cael ei chynnal.

Yn ymuno â’r orymdaith ar ddechrau’r prynhawn fydd cynrychiolwyr sefydliadau a chymdeithasau lleol ynghyd â Gorsedd y Beirdd.

Yn ystod y seremoni mi fydd y Rhestr Testunau, sef y rhestr o gystadlaethau a gwybodaeth i unrhyw un sy’n dymuno mynd ati i gystadlu’r flwyddyn nesaf, yn cael ei chyhoeddi.

“Argoeli’n arbennig o dda”

Cadeirydd pwyllgor gwaith lleol, Ashok Ahir, fydd yn cyflwyno copi cyntaf o’r rhestr testunau i’r Archdderwydd ac mae wedi ei galonogi o weld “cymaint o gefnogaeth at yr Eisteddfod yn barod.”

“Rydym wedi bod wrthi’n gweithio’n galed yn lleol ers misoedd lawer yn codi ymwybyddiaeth ac arian a braf yw gweld bod cymaint o gefnogaeth yma i’r Eisteddfod yn barod,” meddai Ashok Ahir.

“Mae’n argoeli’n arbennig o dda ar gyfer y misoedd nesaf, a gobeithio y daw pobl o Gymru gyfan atom i fwynhau’r Cyhoeddi dros y penwythnos.”

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn cael ei chynnal yn ardal bae’r brifddinas rhwng Awst 3 ac Awst 11, 2018.