Elen Gwenllian Hughes
Merch o Gricieth, Eifionydd, yw prif lenor Eisteddfod yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr 2017.

Elen Gwenllian Hughes, 23, sydd wedi cipio Coron y brifwyl eleni ac yn ôl y beirniaid, Lowri Cooke ac Angharad Elen, hi oedd ‘breuddwydiwr y gystadleuaeth’.

Mae’r goron yn cael ei gwobrwyo i’r darn neu ddarnau o ryddiaith gorau dros 4,000 o eiriau ar y thema ‘Rhyddid’.

Byd tylwythen deg

Byd tylwythen deg o’r enw Loti sydd wrth wraidd y gwaith buddugol, sy’n adrodd hanes tylwythen sydd ar y trothwy rhwng plentyndod a glaslencyndod sy’n ceisio dod o hyd i’w thraed.

“Dyma stori weledol gref, sy’n cynnig chwa o awyr iach wrth i Loti fynd ar daith i wrthryfela yn erbyn trefn ormesol, dotalitaraidd ei byd,” meddai Lowri Cooke wrth draddodi’r feirniadaeth.

“Llwyddir i greu sefyllfa ddifyr gyda Loti yn closio at feidrolyn o hen lanc o’r enw Wil.

“Gŵyr yr awdur hwn sut i greu awyrgylch ac mae ei geiriau yn canu fel pe baent yn bod erioed. Yn rhyfedd ddigon, ac yn gwbl annibynnol ar ein gilydd, cyflyrwyd y ddwy ohonom i ddarllen y gwaith hwn yn uchel; mae hynny’n profi rhywbeth.”

Cafodd Elen Gwenllian Hughes ei magu yn Eifionydd, ac aeth i Ysgol Gynradd Chwilog, Ysgol Glan-y-Môr ac yna Coleg Meirion Dwyfor.   Mae newydd orffen cwrs ymarfer dysgu, ar ôl ennill gradd yn y Gymraeg, a chyn chwilio am ei swydd gyntaf fel athrawes Gymraeg, mae’n gobeithio mynd i deithio.

Lora Angharad Lewis o Gylch Llŷn ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth, gydag Osian Wyn Owen o Aelwyd JMJ yn drydydd.  Daeth 17 ymgais i law i gyd.