Gydag Eisteddfod yr Urdd yn mynd i Lanelwedd y flwyddyn nesaf, mae’n debyg bod cynnwrf yr ŵyl wedi cydio yn barod, gyda chynnydd anferth yn nifer yr aelodau yn yr ardal.

Mae Rhiannon Walker wedi bod yn gweithio fel Swyddog Datblygu cyntaf yr Urdd yn yr ardal ers blwyddyn bellach, gyda’r nifer sy’n cystadlu yn yr ardal wedi bron â threblu.

Bu 1,063 yn cystadlu mewn cystadlaethau chwaraeon yn yr ardal eleni, o’i gymharu â 368 yn 2015/2016.

“Mae popeth wedi cynyddu, pob elfen o’n gwaith ni yn yr ardal, yn enwedig chwaraeon,” meddai Rhiannon Walker wrth golwg360.

“A’r Eisteddfod Sir hefyd, roedd pawb methu credu faint oedd yn cymryd rhan flwyddyn yma o gymharu gyda phob blwyddyn arall.

“Ro’n ni wedi dechrau yn gynharach a gorffen lot yn hwyrach nag ry’n ni wedi erioed o’r blaen.”

Bydd Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018 ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Dyma Rhiannon Walker a Stephen Mason, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod yn edrych ymlaen at y flwyddyn o drefnu sydd o’u blaen cyn y brifwyl nesa’.