Y telynor Dylan Cernyw (Llun: Golwg360)
Ychydig funudau cyn i’r telynor adnabyddus, Dylan Cernyw, gamu ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd i gyfeilio i gystadlaethau cerdd dant, fe synhwyrodd fod rhywbeth anarferol am ei delyn.

“Doedd un o’r pedalau ddim yn gweithio’n iawn, a wnes i ddeall wedyn fod un o’r rods tu fewn i’r pilar wedi malu,” meddai wrth golwg360.

Ar y pryd fe gafodd Dylan Cernyw fenthyg telyn gan gyfeilydd arall ond, ar ôl hynny, fe deithiodd fwy na 200 milltir i’w gartref ym Mae Colwyn ac yn ôl er mwyn codi telyn arall i barhau â’r gwaith cyfeilio.

O Ben-y-bont i Fae Colwyn

“Mae sawl un wedi cynnig benthyg eu telyn imi, ond mae’n rhaid i chi fod yn gyfforddus ac yn hollol broffesiynol achos mae’n gystadleuaeth ac mae ’na blant yn dibynnu ar hynny,” meddai Dylan Cernyw.

Fe adawodd y Maes brynhawn dydd Llun gan ddychwelyd i Ben-y-bont ar Ogwr wedi hanner nos gyda’i delyn newydd.

Esboniodd nad ydi o erioed wedi profi rhywbeth tebyg, ac fe fydd yn rhaid iddo fynd â’r delyn i unai Wrecsam neu Lundain i’w thrwsio.

“Dyma oedd fy nhelyn fawr gyntaf i, mi brynes i hi 25 mlynedd yn ôl felly mae wedi gwneud yn dda,” meddai wedyn.

“Dw i’n lwcus i ddweud y gwir iddo ddigwydd gefn llwyfan. Byddai o wedi bod llawer gwaeth ar y llwyfan yn enwedig i’r rhai sy’n cystadlu o ran eu hyder nhw.”