Mistar Urdd ym Mhen-y-bont
Y ferch dywydd, Sian Lloyd, fydd yn agor Pafiliwn Eisteddfod yr Urdd heno, a hynny trwy gyflwyno cyngerdd agoriadol y brifwyl ieuenctid ym Mhen-coed ger Pen-y-bont ar Ogwr 2017.

Yn ystod y noson, fe fydd Sian LLoyd, sy’n gyn-enillydd Coron yr Urdd, yn cyflwyno cor Only Boys Aloud; enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2016, Steffan Rhys Hughes; ynghyd a’r gantores sioeau cerdd Sophie Evans o Donypandy; Dawnswyr Bro Taf; a’r myfyriwr o Faesteg, Rhydian Jenkins.

Ben bore Llun y bydd y cystadlu’n dechrau ym Mhen-coed, pryd y bydd y gyfansoddwraig Amy Wadge yn Llywydd y Dydd, a’r cystadlu ar y llwyfan yn cael ei arwain gan Meilir Rhys Williams, Elliw Mai a Catrin Heledd.