Mae pob tocyn ar gyfer dau o gyngherddau nos Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn eleni wedi cael eu gwerthu yn barod, gan greu record newydd i’r brifwyl.

Ddeuddydd ar ôl i docynnau fynd ar werth, roedd pob un o’r tocynnau ar gyfer Gig y Pafiliwn ar Awst 10, a Sioe Lwyfan Tudur Owen a’r criw, wedi eu gwerthu.

Dyma’r tro cyntaf i ddau gyngerdd werthu allan mor sydyn.

“Yr hyn sy’n braf ac yn bwysig am gyngherddau’r Eisteddfod yw’r amrywiaeth eang sydd i’w gael yn y Pafiliwn gyda’r nos, ac mae hyn yn bendant yn wir eleni,”  meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.

“Ond, mae angen archebu tocynnau’n fuan er mwyn peidio cael eich siomi, gan fod tocynnau i amryw o’r nosweithiau eraill yn prinhau, felly ewch ati’n fuan i drefnu.”

Y cyngherddau eraill:

  • Nos Wener Awst 4: A Oes Heddwch?
  • Nos Sadwrn Awst 5: Gwyn Hughes Jones
  • Nos Sul Awst 6: Y Gymanfa Ganu
  • Nos Lun Awst 7: Noson Lawen Ynys Môn