Aled Rees o Borthrhyd a Rhinedd Williams o Landdarog ydi enillwyr Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled yr Urdd eleni – gwobr sy’n cael ei rhoi yn flynyddol am gyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.

Mae Rhinedd Williams yn fam i dri o blant, yn wreiddiol o Sir Benfro ond bellach yn byw yn Llanddarog, ac Aled Rees yn dad i bedwar o blant ac yn byw ym Mhorthyrhyd. Penderfynodd y ddau sefydlu Adran Neuadd Fach yng Nghwm Gwendraeth ddeng mlynedd yn ôl.

Maent yn arwain adran ac uwch adran ar gyfer plant cynradd ac uwchradd yn wythnosol, yn hyfforddi plant yn flynyddol ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, mynd ar deithiau i wersylloedd yr Urdd a chynnig digwyddiadau yn y gymuned megis cyngherddau ac wedi codi llawer o arian at achosion da.

“Mae ennill y tlws hwn yn anrhydedd mawr a dw i heb ddod dros y sioc,” meddai Rhinedd Williams. “Rydym wedi gweld pobl eraill yn cael y wobr gan feddwl ‘dyna braf’, ond erioed wedi dychmygu y byddem ni yn ei derbyn ac yn hynod falch fod ein gwaith yn cael ei werthfawrogi.

“Dydyn ni ddim yn ei wneud er mwyn cael diolch ond pan fydd gwobr fel hyn yn cael ei chynnig, mae’n golygu lot.”

Prinder arweinwyr 

“Dw i’n credu bod angen i’r Urdd fynd ati i annog pobol ifanc a chyn-aelodau i gychwyn adrannau ac aelwydydd yn eu cymunedau gan roi cyfle iddyn nhw unai ymweld gydag adrannau sydd wedi eu sefydlu ers blynyddoedd i gael sgwrs a rhannu arfer dda neu fod rhyw fath o gwrs hyfforddi penwythnos yn cael ei gynnal i roi arweiniad i griw newydd,” meddai Aled Rees.

“Y peryg, fel arall, yw ein bod yn methu talent allai gynnal adrannau ac aelwydydd bywiog.

“Yn ein hardal ni, un peth sydd wedi llonni fy nghalon yw sut mae y to hŷn nawr wedi dechrau cynorthwyo yn yr adran.  Er enghraifft mae dwy o’n aelodau eleni yn cyfeilio ar gyfer y dawnswyr gwerin bach, ac mae hynny yn rhoi gymaint o falchder i mi a gweld y rhai bach yn perfformio ar y llwyfan.”

Caiff Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled ei rhoi gan Dewi a Gerallt Hughes, er cof am eu rhieni John a Ceridwen Hughes oedd yn weithgar iawn ym maes ieuenctid.