Elfed Roberts
Mae apêl wedi ei lansio er mwyn dod o hyd i wirfoddolwyr ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn  Ynys Môn eleni.

Mae’r Eisteddfod yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu mewn llwythi o feysydd gan gynnwys croesawu ymwelwyr i’r maes,  cefnogi’r rhai sy’n mynd i’r Lle Celf a Maes D ac i weithio fel llysgenhadon ‘Yma i Helpu’.

Y dyddiad cau i wneud cais i wirfoddoli yw Mehefin 12 ac mae modd cofrestru i wirfoddoli ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Mae gwirfoddoli yn yr Eisteddfod yn brofiad arbennig y gellir ei ddefnyddio wrth chwilio am swydd neu gyfleoedd yn y dyfodol,”  meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts.

“Drwy greu cyfleoedd mwy eang, gobeithio y byddwn yn llwyddo i ddenu unigolion sy’n awyddus i gael profiad yn y meysydd hyn.”