Y diweddar Gerallt Lloyd Owen
Fe fydd y Babell Lên yn adeilad llai yn eisteddfodau cenedlaethol y dyfodol – a hynny oherwydd nad ydi’r adeilad 500 sedd ddim wedi bod yn “agos at fod yn llawn ers blynyddoedd”, yn ôl swyddogion y brifwyl.

Mewn ymateb i benderfyniad Bwrdd Rheoli yr Eisteddfod i leihau’r is-bafiliwn sy’n cael ei ddefnyddio’n gartre’ i ddarlithoedd a sesiynau’n ymwneud â llenyddiaeth ar y Maes, fe ddywedodd cyn-Gadeirydd Cyngor yr Eisteddfod nad yw’r Babell Lên wedi bod yn llawn “ers dyddiau Gerallt” – gan gyfeirio at y diweddar Gerallt Lloyd Owen, meuryn Ymryson y Beirdd bob blwyddyn.

A’r unig reswm y cafodd y Babell Lên ei chadw’n adeilad mor fawr cyhyd, meddai Prif Weithredwr y brifwyl, Elfed Roberts, oedd er mwyn bod yn fan cyfarfod i aelodau Gorsedd y Beirdd, pe bai hi’n rhy wlyb i gynnal eu seremonïau awyr agored ar foreau Llun a Gwener bob blwyddyn.

“O hyn allan, rydan ni wedi penderfynu lleihau’r Babell Lên a chael Neuadd Ddawns fwy – ac yn y Neuadd Ddawns y bydd digwyddiadau’r Orsedd yn cymryd lle wedyn,” meddai Elfed Roberts.

“Rydan ni wedi bod yn cadw golwg ar gynulleidfaoedd y Babell Lên ers blynyddoedd lawer, a dydi hi byth yn llawn,” meddai wedyn, cyn i Eifion Lloyd Jones ychwanegu “dim ers dyddiau Gerallt…. dydi’r gefnogaeth ddim wedi bod yr un fath i’r Ymryson”.

“Mi fydd y Babell Lên newydd yn llai, yn fwy diddos, ac yn fwy addas ar gyfer digwyddiadau llenyddol.”

Mae golwg360 hefyd yn deall bod yna awydd gan drefnwyr y brifwyl i symud i ffwrdd oddi wrth duedd y blynyddoedd diweddar o gynnal sesiynau i gofio pobol sydd wedi marw, ac i ganolbwyntio mwy ar ddathlu “pobol go iawn tra maen nhw’n dal yn fyw”.