Maes yr Eisteddfod yn y Fenni (Llun: yr Eisteddfod)

Mae cael pedair Eisteddfod Genedlaethol yn olynol yn gwneud elw ariannol, wedi rhoi’r sefydliad mewn safle gwell nag y bu ers blynyddoedd lawer.

Dyna a ddywedodd Dr Alwyn Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Archwilio y brifwyl i’r Cyngor heddiw, wrth iddo gamu o’r swydd i gymeradwyaeth a chanmoliaeth ei gyd-aelodau.

Fe gyhoeddwyd fod prifwyl Sir Fynwy yn Awst eleni wedi talu ei ffordd gyda gweddill o £6,000 – a hynny pan oedd Alwyn Roberts a’i bwyllgorwedi amau y gallai’r arbrawf o ymweld a chornel ddi-Gymraeg yn ne-ddwyrain Cymru “gostio inni”, meddai.

Clywodd cyfarfod o’r Cyngor yn Aberystwyth heddiw fod cefnogaeth pobol leol a’r cyngor sir wedi bod yn allweddol i lwyddiant yr Eisteddfod, a bod galw mawr am wersi Cymraeg yn yr ardal.

Talodd Elfed Roberts deyrnged i fwriad Cyngor Sir Fynwy, o’r dechrau’n deg, i hyrwyddo eu hardal i weddill Cymru; i’w trefniadau a’u cydweithio.

Mae Cyngor yr Eisteddfod wedi paratoi adroddiad manwl o’r Ŵyl, sydd i’w weld ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru.

Rhybudd ariannol 

Er i wyliau Sir Ddinbych, Sir Gar, Meifod a’r Fenni sicrhau elw ariannol, roedd gan Brif Weithredwr y brifwyl rybudd i holl aelodau’r Cyngor rhag gwirioni gormod. Ac roedd Alwyn Roberts yn ofalus wrth groesawu cyfraniadau pobol Mon flwyddyn yn gynnar.

“Rydan ni mewn sefyllfa obeithiol, ond dydan ni ddim cweit wedi cyrraedd y miliwn o bunnau wrth gefn yr ydan ni wedi’i osod fel nod,” meddai Alwyn Roberts, “ac yn sicr, dydan ni ddim yn agos o gyrraedd nod Comisiwn yr Elusennau o fod a gwariant blwyddyn yn y gronfa wrth-gefn.

“Er mwyn sicrhau hynny, mi fyddai angen bron i £4m arnon ni.”

Fe ddaeth adlais gofalus hefyd gan Elfed Roberts, gan atgoffa’r Cyngor o’r gwariant ychwanegol o £100,000 a orfodwyd ar y brifwyl yn 2007, er mwyn gwneud gwaith ar y Maes ar ol tywydd garw. “Roedd hynny jyst er mwyn gallu agor y drysau,” meddai.

Beryl Vaughan, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Maldwyn a’r Gororau 2015, sy’n olynu Alwyn Roberts yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio.