Cadair Eisteddfod Powys (llun wedi'i dynnu gan Peter Flemmich)
Fe fydd aelodau pwyllgor gwaith Eisteddfod Talaith a Chadair Powys yn ystyried cynnal digwyddiad arall yn lle’r eisteddfod yn 2017, ar ôl methu dod o hyd i leoliad iddi.

Cyhoeddwyd heddiw bod yr ŵyl deithiol yn cael ei chanslo’r flwyddyn nesa gan nad oedd digon o ddiddordeb ei chynnal yn dilyn ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â phentref cyfagos Meifod yn 2015.

Dywedodd Edwin Hughes o Lanbrynmair, Cofiadur Eisteddfod Powys, bod bwriad i drefnu penwythnos gwerinol yn ei lle ym mis Hydref 2017 – gyda gig ar nos Wener a gweithdai clocsio a digwyddiadau eraill ar ddydd Sadwrn.

Y gobaith, yn ôl Edwin Hughes, fydd denu “ystod eang o bobol” i’r penwythnos gwerinol, rhai efallai na fyddai wedi mentro i’r eisteddfod fel arall.

Bydd y pwyllgor gwaith yn cwrdd ar 18 Chwefror i drafod y syniad ymhellach.

‘Siom’

Roedd y cofiadur yn siomedig nad oedd y brwdfrydedd arferol wedi ei ddangos wrth baratoi at gynnal yr eisteddfod yn 2017:

“Mi fuodd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod a’r ardal yn brysur iawn. I fod yn hollol onest, doedd pobol ddim yn fodlon mynd ati eto,” meddai Edwin Hughes.

“Roeddwn i wedi gobeithio mynd i’r Bala ond roedd ‘na lot o bethau yn mynd mlaen yno, hefo’r ysgol gydol oes.

“Y Drenewydd oedd opsiwn arall, ond mae’r Cymry Cymraeg wedi mynd yn ‘chydig yn Drenewydd”.

Wrth drafod y digwyddiad gwerinol arfaethedig, dywedodd bod gobaith y bydd digwyddiad llai ffurfiol yn denu amrywiaeth o bobol.

“Fyddwn ni ddim yn anelu at bobol ifanc yn benodol, ond yn hytrach yn gobeithio denu ystod eang o bobol gan gynnwys dysgwyr.”

Mae disgwyl i’r eisteddfod, gafodd ei sefydlu yn 1820, ddychwelyd yn ei ffurf wreiddiol yn 2018.