Bydd Her y Dyn Pren neu’r Mannequin Challenge yn cyrraedd Eisteddfod Genedlaethol y Ffermwyr Ifanc ddydd Sadwrn.

Dyma chwiw sydd wedi cyrraedd Cymru o America, lle mae pobol yn cael eu ffilmio’n aros yn llonydd, fel dynion pren.

Defnyddiodd Hillary Clinton y Mannequin Challenge fel rhan o’i hymgyrch i fod yn Arlywydd nesaf yr Unol Daleithiau.

Gyda disgwyl cannoedd yn yr Eisteddfod yn Neuadd Brangwyn, Abertawe, os bydd Her Dyn Pren y Ffermwyr Ifanc yn llwyddiannus, dyma fydd Mannequin Challenge mwya’ Cymru hyd yn hyn.

Bydd yr her yn cael ei ffilmio’n fyw ar S4C am 7 o’r gloch, gyda’r rhaglen gyntaf yn dechrau am 5 o’r gloch y prynhawn a’r ail un am 8:30.

Eisteddfod Sir Gâr yn Abertawe

Clwb Ffermwyr Ifanc Sir Gâr sy’n cynnal yr Eisteddfod eleni, ond mae’n cael ei chynnal yn Abertawe am nad oedd y ffederasiwn yn gallu dod o hyd i adeilad digon mawr yn y sir.

Owain Siôn a Delyth Medi bydd yn beirniadu’r cystadlaethau cerdd, Garry Owen yn beirniadu’r llefaru a Gwyn Elfyn yn gyfrifol am y cystadlaethau ysgafn.

Simon Davies fydd yn beirniadu’r dawnsio, a’r Prifardd Hywel Griffiths, Elonwy Phillips a Catrin Arwel yn beirniadu’r gwaith cartref.

Eleni am y tro cyntaf bydd yr Eisteddfod yn cynnal Seremoni Cadeirio a Choroni gyda’i gilydd, gydag aelodau CFFI Capel Iwan, Bedwyn Rees wedi dylunio’r Gadair a Dylan Bowen wedi dylunio’r Goron.