Y seremoni ddwbl - Ceris James ar y chwith, Lisa Mai Jones ar y dde (Llun Golwg 360)
Roedd yna ddarn bach o hanes eisteddfodol yng Ngheredigion neithiwr wrth i seremoni ddwbwl gael ei chynnal am y tro cynta’ yn Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc.

Lisa Mai Jones o Glwb Pontsian oedd y gynta’ erioed i ennill Coron yr Eisteddfod a chafodd ei gwobrwyo ochr yn ochr â Ceris James o Fydroilyn, enillydd y Gadair.

Tan eleni, dim ond cadair oedd yn cael ei rhoi am ryddiaith a barddoniaeth ond mae’r ddau bellach wedi eu gwahanu … ac fe fydd yr un peth yn digwydd ar lefel genedlaethol hefyd.

‘Safon uchel iawn’

Fe enillodd Lisa Mai am stori fer yn sôn am ladd mochyn daear a’r diciâu yn taro buches ar fferm – mae hi ei hun yn ferch ffarm odro.

Yn ôl y beirniad, Karen Owen, roedd safon y rhyddiaith yn arbennig o uchel yn ei phrofiad o feirniadu’n gyson.

“Dw i ddim wedi darllen pethau cystal â hyn ers rhai blynyddoedd,” meddai.

Roedd yn canmol cerdd fuddugol Ceris James hefyd gyda’r syniad o fabi yn cael ei geni mewn ysbyty a’i hen-daid yn marw mewn ward ddau lawr yn uwch.

Llanwenog yn ennill

Unwaith eto, Clwb Llanwenog oedd enillwyr yr eisteddfod gyfan ond gyda chystadleuaeth llawer closiach nag yn ddiweddar – roedd Pontsian o fewn naw pwynt iddyn nhw, a Felin-fach yn drydydd, un marc arall yn ôl.

Caerwedros oedd enillwyr y côr.