Mae hyd at 3,000 o bobol wedi ymgasglu yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer Cyhoeddi Eisteddfod yr Urdd 2017.

Bydd y gynulleidfa’n gorymdeithio drwy’r dref fel rhan o ddathliadau Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elai.

Dechreuodd yr orymdeith yng Ngholeg Pen-y-bont, lleoliad yr Eisteddfod, am 11 o’r gloch gan orffen ar gaeau Bontnewydd.

Ymhlith yr artistiaid fydd yn perfformio yn ystod y dydd mae’r gantores Danielle Lewis a Cpt Smith.

Bydd llu o weithgareddau i blant yn ystod y dydd hefyd, gan gynnwys gweithgareddau chwaraeon.