Y ciw am y Cadeirio (llun Golwg360)
Dydd Gwener yw diwrnod gorau Eisteddfod Genedlaethol 2016 hyd yn hyn, gyda mwy na 23,000 yn heidio i fwynhau’r haul ar y Maes.

Ac mae’n bosib y bydd y ffiwgr yn codi eto wrth i ragor o bobol fynd i  mewn ar gyfer un o uchafbwyntiau’r blynyddoedd diweddar, y gig ar y llwyfan agored.

Y cyfanswm ddydd Gwener eleni oedd 23,059, llai nag ar ddydd cadeirio yn yr ardaloedd mwy Cymraeg eu hiaith ond ymhlith y gorau yn yr ardaloedd eraill.

Fe fydd yr ymwelwyr fin nos yn cael eu hychwanegu at gyfanswm fory.

Roedd yna olygfeydd traddodiadol hefyd, wrth i gannoedd o bobol giwio am amser hir i sicrhau lle yn y Pafiliwn ar gyfer y seremoni.