Nigel Owens a Carwyn Jones yn yr Eisteddfod
Mae enillydd prif wobr Gwobrau Dewi Sant Llywodraeth Cymru eleni wedi dweud bod angen “lledaenu’r neges” am y gwobrau, gan nad oedd e’n gwybod amdanyn nhw cyn cael ei enwebu.

Fe enillodd Nigel Owens wobr arbennig y Prif Weinidog mewn seremoni fawr ym mis Mawrth y llynedd.

Ac wrth hyrwyddo’r gwobrau ar ddiwrnod agor y cyfnod enwebu, fe ddywedodd Nigel Owens ei bod yn bwysig “lledu’r neges dros Gymru gyfan.”

“Cyn i fi gael fy enwebu am y wobr, doedden i erioed wedi clywed amdanyn nhw, ac mae hynny’n dweud tipyn am pam ydyn ni yma heddiw,” meddai wrth lansio’r cyfnod enwebu.

“Doedden i ddim yn ymwybodol amdanyn nhw tan tua chwe mis yn ôl a nawr dwi’n gwybod amdanyn nhw a beth maen nhw’n golygu a dwi’n meddwl bod e’n bwysig iawn ein bod yn lledu’r neges dros Gymru gyfan am wobrau Dewi Sant.”

Carwyn – ‘dim prinder enwebiadau’

Y Prif Weinidog, Carwyn Jones, oedd yn cyflwyno’r wobr i Nigel Owens, ac wrth gael ei holi gan golwg360, fe ddywedodd nad oes prinder enwebiadau yn dod ers sefydlu’r gwobrau pedair blynedd yn ôl.

“Dydyn ni ddim mewn sefyllfa lle nad oes digon o enwebiadau gennym ni ond wrth gwrs dros y blynyddoedd, bydd rhaid i ni sicrhau bod mwy yn gwybod am y gwobrau ac yn enwebu,” meddai Carwyn Jones, gan bwysleisio bod y gwobrau yn dal i fod yn “weddol newydd.”

Bu llawer o sôn am dîm pêl-droed Cymru, ac a fydd y garfan yn cael eu hanrhydeddu yn y gwobrau ym mis Mawrth 2017.

Fe ddywedodd Nigel Owens y bydd llu o wobrau eto i ddod i Chris Coleman â’i dîm, am yr hyn maen nhw wedi’i wneud – ar y cae ac oddi ar y cae.

Ond pwysleisiodd hefyd, fod angen cydnabod pobol gyffredin y wlad, “sy’n rhoi eu hamser, yn rhad ac am ddim”, i’w cymunedau.

“Fi’n siŵr fyddan nhw (y tîm pêl-droed) yn cael clod yn y gwobrau eleni, fel bydd y bobol yna sydd ddim yn cael diolch bob dydd, fel ydw i wedi bod yn ffodus iawn o gael y gydnabyddiaeth,” meddai Nigel Owens.

“Mae’n bwysig iawn ein bod yn rhoi cydnabyddiaeth i bob math o bobol ym mhob math o sectorau.”

Neb mewn golwg gan Carwyn

Dywedodd Carwyn Jones nad oes neb ganddo mewn golwg i gael eu henwebu eto gan ei bod dal yn “gynnar.”

Ac wrth hyrwyddo’r gwobrau, dywedodd eu bod yn “dangos bod Cymru’n wlad fywiog, fodern a hyderus a bod y digwyddiad yn “gwerthfawrogi arloesedd, ysbryd cymunedol ac ein dinasyddion.”

“Mae gwobrau Dewi Sant, sydd nawr yn bedair blwydd oed, yn bodoli i ganfod, cydnabod a dathlu’r unigolion a grwpiau hyn mewn wyth categori,” meddai.

Mae’r cyfnod enwebu am Wobrau Dewi Sant 2017 wedi agor a byddan nhw ar agor tan 21 Hydref.