Mae cyn-drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, John Roberts, wedi marw’n 100 oed.

Ar ôl byw y rhan fwya’ o’i oes yn y Groeslon ger Penygroes, roedd yn byw mewn cartref henoed yng Nghaernarfon ers rhai blynyddoedd.

Cafodd ei eni yn Lerpwl yn 1916, a’i fagu ym Mhen Llŷn ac fe ddathlodd ei ben-blwydd yn 100 oed ym mis Mai

Ef oedd trefnydd llawn amser cynta’r Eisteddfod Genedlaethol ac, ymhell ar ôl ymddeol, fe drodd at gystadlu ac ennill gwobr y Stori Fer.

Teyrnged y Parchedig R. Alun Evans

Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd y Parchedig R. Alun Evans wrth Golwg360 fod John Roberts yn “ddyn ei fro”, “yn gyfaill cywir iawn”, “yn ddyn pendant”, “yn ddyn doeth” ac yn “ddyn hunanddiwylliedig”.

Dywedodd ei fod yn “un trefnus fel y disgwyliech chi i drefnydd Eisteddfod fod – person trefnus, teg, trwsiadus o ran ei olwg.

“Mi roedd e’n ddyn pendant iawn. Roedd y pendantrwydd e’n elfen ohono fe – ei ‘Ie’ fe’n ‘Ie’ a’i ‘Na’ yn ‘Na’, a doedd dim ots â phwy oedd e’n siarad oherwydd person un-wynebog oedd e, nid person dau-wynebog ar unrhyw gyfri.”

Daeth y pendantrwydd hwn i’r golwg ym mis Mai eleni, pan wrthododd garden pen-blwydd yn 100 oed gan y Frenhines “ar y sail nad oedd hi’n ei nabod e”.

Eisteddfodau ‘digon anodd’

 Ychwanegodd fod ei gyfnod fel trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn un “digon anodd” ar adegau, yn arbennig yn ystod Eisteddfod y Fflint yn 1969, adeg yr Arwisgo, pan fu protestiadau ffyrnig yn erbyn Ysgrifennydd Cymru ar y pryd,  George Thomas.

“Yn Eisteddfod Y Fflint yn 1969, Eisteddfod yr Arwisgo, roedd hi’n eisteddfod ddigon anodd am nifer o resymau i drefnydd. Yno fe welwyd John Roberts y dyn doeth yn llwyddo i lywio rhwng y stormydd oedd ar y pryd.

“Busnes yr Arwisgo wnaeth Steddfod y Fflint yn fusnes anodd iddo fe. Roedd Cynan yn Llywydd y Llys, yn gyn-Archdderwydd, ac wedi ysgrifennu geiriau arbennig, a phlant dwy o’r ysgolion – Glan Clwyd a Maes Garmon – yn gwrthod canu.

“Wedyn, o’dd hi’n ben-ben rhwng Cynan a’r plant, mewn gwirionedd. Ond fe lwyddodd John, drwy ei ddoethineb, i ddarbwyllo Cynan ac fe gyfansoddodd Cynan gerdd wahanol a’r plant yn ddigon hapus i ganu honno.”

Fe fu’n rhaid i John Roberts ddefnyddio’i ddoethineb unwaith eto yng Nghricieth yn 1975.

“Adeg Eisteddfod Cricieth yn ’75, canfuwyd nad oedd y Pafiliwn yn ddiogel i’r gynulleidfa a’r holl helynt ynglŷn â hynny. Wel, John oedd ynghanol yr helbul hwnnw. Ond fe lywiodd e, unwaith eto, yr hen long i’r harbwr.”

‘Dyn hunanddiwylliedig’ ac arloeswr

Roedd ei ddiddordeb yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn rhan annatod ohono ac fel yr eglura R. Alun Evans, fe barhaodd ei ymrwymiad i’r sefydliad ymhell ar ôl ei ymadawiad.

“Roedd e’n cymryd diddordeb mawr yn yr Eisteddfod, hyd yn oed wedi i’w ddyddiau fe fel trefnydd ddod i ben. Ac roedd e’n sicr yn un o’r rhai oedd yn gyfrifol am baratoi’r ffordd ar gyfer y newidiadau mawr sydd wedi bod yn y Brifwyl oddi ar ei gyfnod e yn drefnydd.”