Fis a hanner cyn y bydd ymwelwyr yn cyrraedd Sir Fynwy a’r Cyffiniau ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae’r trefnwyr ynghyd â Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched yn galw ar fusnesau a chymunedau lleol i ddangos eu cefnogaeth drwy godi fflagiau ac addurniadau i groesawu pobol i’r ardal.

Eleni yw’r tro cyntaf i’w Eisteddfod ymweld â’r ardal ers 1913, ac mae’r Eisteddfod yn ceisio annog busnesau a sefydliadau lleol i addurno’r strydoedd, trwy gynnal cystadleuaeth a fydd yn cael ei beirniadu ddiwedd Gorffennaf.

Cyflwynir Tlws i’r busnes neu’r gymuned fuddugol yn rhoddedig gan Sefydliad y Merched yn ystod seremoni fer ar lwyfan y Pafiliwn yn yr Eisteddfod ar brynhawn Mawrth, Awst 2.

“Ychydig o liw yn help”

“Mae ychydig o liw, baner, arddangosfa mewn ffenest, blodau neu boster yn gwneud byd o wahaniaeth wrth i’r Eisteddfod agosáu,” meddai Alwyn Roberts, Dirprwy Drefnydd yr Eisteddfod.

“Mae ymwelwyr wrth eu boddau’n gweld bod croeso i’r Eisteddfod ac iddyn nhw mewn ardal, ac mae hyn yn adlewyrchu’n dda ar yr ardal yn gyffredinol. Mae pob cefnogaeth yn gymorth mawr i’r gwaith o hyrwyddo’r Eisteddfod.

“Rydym yn awyddus i groesawu nifer fawr o ymwelwyr lleol i’r Eisteddfod yn ogystal â’r rheini sy’n dod atom bob blwyddyn. Felly mae creu bwrlwm a brwdfrydedd mewn trefi a phentrefi’n bwysig i ni – a pha well ffordd o wneud hyn na chyda cystadleuaeth?”

Mae modd i unrhyw fusnes neu gymuned yn ardal Sir Fynwy a’r Cyffiniau gystadlu, a gellir gwneud hynny naill ai drwy fynd i’r wefan, www.eisteddfod.cymru/2016/addurno, ac mae cannoedd o becynnau busnes sy’n cynnwys copi o’r ffurlen gystadlu’n cael eu dosbarthu ar hyd a lled y dalgylch ar hyn o bryd.

Y dyddiad cau i gystadlu yw dydd Gwener 15 Gorffennaf.