Gwenwch, mae’n ddydd Gwener!

Ac mae hynny ond yn golygu un peth – ein podlediad olaf ni o faes Eisteddfod yr Urdd yn Fflint am yr wythnos.

Mae hi wedi bod yn wythnos fywiog ac amrywiol arall yn yr ŵyl ieuenctid ac ar ein pod ni ar golwg360, gyda’r gwestion yn trafod popeth o lefaru a barddoni i bêl-droed a gwyddoniaeth.

Ar ein pod olaf ni’r wythnos hon mae Catrin Haf Jones, newyddiadurwraig ar raglen Y Byd Ar Bedwar ar ITV a chyn-gyflwynydd Hacio.

Fe fuodd hi’n cadeirio dwy sesiwn ar y maes heddiw, gyda’r refferendwm Ewropeaidd a diddordebau pobol ifanc o fewn gwleidyddiaeth dan sylw, a dyna mae hi’n ei drafod â Iolo Cheung ar y pod: