Tegwen Ellis
Bydd yna “groeso cynnes” yn Eisteddfod yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.

Dywedodd Tegwen Ellis hefyd ei bod yn gobeithio “dangos cymaint o Gymraeg sydd yn yr ardal” – ac “ehangu ar hynny”.

Yn ôl y trefnwyr, mae cael y gymuned gyfan at ei gilydd yn gallu bod yn “her” wrth godi arian a chodi ymwybyddiaeth, a hynny am fod safle daearyddol yr ardal mor eang.

Bydd yr Urdd yn teithio i’r ardal ar gyfer yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf a bydd yn cael ei chynnal ar Gampws Pencoed, Coleg Pen-y-bont.

“Mae’r rhanbarth mor eang,” meddai Tegwen Ellis, sydd hefyd yn Bennaeth Ysgol Cynwyd.

“Ry’n ni’n cychwyn yn y dwyrain gyda Phorthcawl ac wedyn mor bell draw â Llantrisant a Phontypridd, ac oherwydd hynny, yn ddaearyddol, mae’n anoddach cynnal digwyddiad mewn un gymuned.

“R’yn ni bron yna ond mae ‘na fynydd o’n blaenau ni o ran yr ochr ariannol a ni’n sylweddoli hynny.”

Rhoi’r un croeso i’r di-Gymraeg

Un o brif nodau’r Eisteddfod hon hefyd bydd “sicrhau bod y di-Gymraeg yn cael yr un croeso” â siaradwyr Cymraeg.

“Rydym ni’n gobeithio y bydd hi’n Eisteddfod sy’n dangos cymaint o Gymraeg sydd yn yr ardal ond hefyd i ehangu ar hynny – sicrhau bod y di-Gymraeg yn cael yr un croeso a’u bod yn mynd o ‘na yn teimlo’n rhan o’r Eisteddfod,” ychwanegodd Tegwen Ellis.