Meri Huws a Sally Holland
Mae partneriaeth newydd wedi’i sefydlu rhwng Comisiynydd y Gymraeg a Chomisiynydd Plant Cymru.

Bu Meri Huws a Sally Holland yn casglu barn plant a phobol ifanc ar faes Eisteddfod yr Urdd eleni am eu hawliau iaith a bydd y ddwy yn cydweithio’n bellach i “gryfhau” hawliau iaith plant Cymru.

“Mae yna dueddiad, yn arbennig pan rydym yn sôn am hawliau ieithyddol, i feddwl am oedolion – pobol sy’n derbyn gwasanaethau, gweithluoedd,” meddai Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg.

“Rydym ni’n sylweddoli bod yna garfan anferth o gymdeithas sydd yr un mor bwysig os nad yn bwysicach, pobol ifanc a phlant, sydd â hawliau hefyd.”

Daw’r bartneriaeth wrth i Safonau’r Gymraeg ddod i rym yn y gobaith o roi hawliau iaith i bob un sydd am ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddelio â gwasanaethau cyhoeddus.

Dywedodd Sally Holland fod “llawer o hawliau” gan blant Cymru, gan gynnwys yr hawl i gyfathrebu yn Gymraeg.

Galwadau plant a phobol ifanc

Roedd negeseuon plant a phobol ifanc yr Eisteddfod yn awgrymu eu bod yn teimlo’n rhwystredig gan nad oedden nhw bob amser yn gallu siarad Cymraeg gyda’r doctor neu’r deintydd.

Yn ôl y negeseuon, mae angen ehangu’r ddarpariaeth chwaraeon drwy’r Gymraeg hefyd, a gwell amrywiaeth o gyrsiau addysg bellach ac uwch drwy’r Gymraeg.

Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg a’r Comisiynydd Plant, bydd y bartneriaeth hon yn un sy’n parhau am flynyddoedd i ddod.