Y Ffug
Bydd gig yn cael ei gynnal gan Gymdeithas yr Iaith nos fory, i gloi Eisteddfod yr Urdd y Fflint, ac i ddathlu bod Cymru wedi cyrraedd pencampwriaeth Ewro 2016.

Bydd rhai o gyn-aelodau Anrhefn, band Y Ffug, Welsh Rebel Outpost a’r ddau fand lleol, Madfall Reibus ac Ian Rush yn perfformio yn gig ‘Rhedeg i Baris’, ar nos Wener 3 Mehefin.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, bydd y gig yn sicrhau bod “carfan arall” o’r gymuned leol yn cael ei chynnwys yng ngweithgareddau’r Eisteddfod.

Mae’r ardal leol wedi cynhyrchu sawl pêl-droediwr mawr fel Ian Rush, Kevin Ratcliffe, David Vaughan a Wayne Hennessey, a bydd y gig, fydd yng nghlwb pêl droed y Fflint.

Mae tocynnau’n £10 yr un a gallwch eu prynu o wefan Cymdeithas yr Iaith.