Dan Rowbotham, Llywydd yr Urdd a Chadeirydd fforwm trafod Syr IfanC
Cafodd golwg360 gyfle i holi Llywydd yr Urdd eleni, Dan Rowbotham, sydd hefyd yn gadeirydd fforwm ieuenctid y mudiad, Bwrdd Syr IfanC.

Mae tipyn o ddatblygiadau newydd ar y maes eleni yn Sir y Fflint, sef Tipi Syr IfanC, fydd yn cynnal trafodaethau  ar argyfwng y ffoaduriaid (Iau), refferendwm yr Undeb Ewropeaidd (Gwener) a sefyllfa’r iaith Gymraeg (Sadwrn).

Gig ar y maes

Dan arweinyddiaeth Dan Rowbotham, sydd ar ei drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant, bydd gig yn cael ei gynnal ar y maes am y tro cyntaf hefyd.

Candelas, Y Bandana a Mellt fydd yn canu ym Mhentre Mistar Urdd nos Sadwrn, a hynny i bobol ifanc rhwng 16 a 25 oed.

Bydd alcohol yn cael ei werthu yn y digwyddiad, gyda bar yn dod i’r maes am y tro cyntaf – ar y nos Sadwrn yn unig.

Bydd y gig yn dechrau am 8:30yh, gyda’r cyfle i wersylla am y noson hefyd am £20 i oedolion, £15 i fyfyrwyr ac £11 i gystadleuwyr, aelodau a phobol ifanc sy’n 16 oed.

Mae tocyn i’r gig yn dod gyda thocyn maes dydd Sadwrn hefyd.

Dyma Dan Rowbotham yn egluro ychydig mwy am ei waith gyda’r Urdd, Tipi Syr IfanC, y gig a’r gwaith dyngarol mae’r mudiad yn ei wneud.