George Dolan a'i fedal ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Fflint
George Dolan, 18 oed, yw enillydd Y Fedal Gyfansoddi yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir y Fflint eleni.

Daw George o Ruthun, ac mae ar ei flwyddyn olaf yn Ysgol Brynhyfryd, gyda’i obeithion at fynd i Brifysgol Huddersfield i astudio Cerddoriaeth y flwyddyn nesaf.

Mae’r darn a ddaeth i’r brig o saith cystadleuydd arall, ‘Agorawd i’r Tylwyth Teg’, yn ensemble chwyth gyda thelyn sydd, yn ôl y beirniad Gareth Glyn, yn “gyfuniad anarferol ac effeithiol”.

Ei uchelgais yn y dyfodol, meddai, yw “cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer ffilmiau a’r teledu.”

“Ond fy mwriad ar hyn o bryd, gan fy mod i’n dod o Ruthun, yw ceisio cyfansoddi cân fuddugol i gystadleuaeth yr Eurovision!”

‘Gwreiddiol a dyfeisgar’

Dywedodd Gareth Glyn, “Dyma’r cyfansoddiad oedd yn sefyll allan o ran gwreiddioldeb a dyfeisgarwch.

“Mae’r newidiadau cymeriad sydyn o adran i adran yn annisgwyl i ddechrau, hyd nes iddi ddod yn glir mai agorawd i opera neu sioe gerdd ydy hon sy’n cyflwyno amrywiol themâu o’r cyfanwaith.”

Yn ail roedd Siriol Jenkins o Ysgol y Preseli ac yn drydydd roedd Louie McIver o Ysgol Penarlâg.