Airbus A380 Qantas
Mae Eisteddfod yr Urdd wedi cyhoeddi mai cwmni awyrennau Airbus fydd yn noddi’r Ganolfan Groeso yn yr ŵyl ieuenctid yn y Fflint yr wythnos nesaf.

Airbus yw un o gyflogwyr mwyaf yr ardal, yn cynhyrchu adenydd awyrennau yn eu ffatri ym Mrychdyn sydd ddeng milltir o faes yr Eisteddfod eleni.

Yn ôl trefnwyr yr ŵyl mae disgwyl y bydd 90,000 o ymwelwyr yn pasio drwy’r ganolfan groeso ar eu ffordd i’r maes, sydd wedi’i sefydlu ar dir Ysgol Uwchradd Fflint.

Ond dyw’r Urdd heb ddatgelu beth yw gwerth y nawdd gan Airbus, sydd hefyd yn noddi’r Gwyddonle ar y maes.

Annog gyrfa mewn peirianneg

“Rydym yn falch iawn o fod wedi sefydlu’r bartneriaeth newydd hon gydag Airbus,” meddai Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd.

“Maent yn gyflogwr pwysig yn yr ardal yma ac mae eu nawdd yn cael ei werthfawrogi yn fawr.

“Bydd ganddynt hefyd stondin o fewn Gwyddonle sydd yn gweithio yn wych, gan fod Airbus a Phrifysgol Abertawe, sydd yn noddi’r Gwyddonle, eisoes yn bartneriaid.”

Ychwanegodd Mark Stewart, Rheolwr Cyffredinol y DU a Chyfarwyddwr Adnoddau Dynol Airbus, bod Eisteddfod yr Urdd yn “ddigwyddiad hynod o bwysig yng nghalendr plant a phobl ifanc Cymru”.

“Gan fod y digwyddiad yn cael ei gynnal ar stepen ein drws eleni, roedd yn gyfle gwych i Airbus a’i bartneriaid academaidd – Coleg Cambria a Phrifysgol Abertawe – i groesawu ac annog pobl ifanc i ystyried dilyn gyrfa mewn peirianneg,” meddai.