Cadair Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint
Cafodd prif wobrau Eisteddfod yr Urdd, y gadair a’r goron, eu datgelu i drefnwyr yr ŵyl neithiwr.

Dau grefftwr yn wreiddiol o Loegr sydd wedi creu’r gweithiau, sy’n cynrychioli afonydd, tiroedd a phont nodweddiadol ardal Sir y Fflint, lle fydd yr Eisteddfod yr wythnos nesa’.

Mae’r gadair bren onnen, fydd yn cael ei rhoi i awdur y gerdd gaeth neu rydd orau, â stribedi o ddur yn rhedeg lawr ei chefn, yn cynrychioli afon Alun ac afon Dyfrdwy ac mae siâp Moel Famau i’w gweld ar ei brig.

Arian, copr coch a chopr wedi’i ocsideiddio yw elfennau logo’r Urdd ar y gadair sydd wedi’i chreu gan Neil Wyn Jones, sy’n byw yn y Wirral, ger Lerpwl, ac mae dylanwad pont “trawiadol” Sir y Fflint i’w weld arni hefyd.

Mae coron yr Urdd eleni yn un “wahanol” yn ôl ei cherflunydd, Andrew Coomber, sydd “ond yn cyffwrdd y pen”.

Bydd y benwisg yn cael ei rhoi i awdur y darn neu ddarnau o ryddiaith gorau dros 4,000 o eiriau, ac mae’r goron wedi’i hysbrydoli’n bennaf gan bont Sir y Fflint.

Mae’r goron wedi’i gwneud o acrylig clir a dur gloyw, gyda rhai darnau o’r acrylig wedi eu lliwio yn las i gynrychioli’r afonydd a gwyrdd i gynrychioli’r tir.

Dysgu Cymraeg i oedolion

Mae Neil Wyn Jones, a gerfluniodd y gadair, yn diwtor iaith Gymraeg gyda Phrifysgol Bangor a Choleg Cambria, ac yn gwneud gwaith coed yn ystod ei wyliau neu ar benwythnosau.

“Mae cynllun y gadair yn eithaf syml, ac yn adlewyrchu sut ydw i yn hoffi gweithio gyda phren.  Rwyf wedi defnyddio coed onnen ac ychydig o sycamor, gan ei chadw yn ysgafn a golau o ran ei golwg,” meddai.

“Rwyf yn edrych ymlaen i’w gweld ar y llwyfan a beth sy’n braf am yr Urdd yw y gallaf fod yn siŵr mai rhywun ifanc fydd yn ei hennill!”


Coron Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint

Cwpan Cymun i’r Pab

Un o Fanceinion yw Andrew Coomber, crefftwr y goron. Mae wedi byw yn Sir y Fflint ers yr 198au, gan sefydlu cwrs gradd celf a dylunio a chwrs meistr ym Mhrifysgol NEWI (Glyndŵr erbyn heddiw).

Bu’n gyfrifol am wneud cwpan cymun ar gyfer y Pab a gwobrau ar gyfer y gyfres deledu Krypton Factor yn y 1980au a’r 1990au.

“Mi wnes i dderbyn y cynnig i wneud y goron gan mai mudiad ieuenctid yw’r Urdd, a theimlwn y byddwn yn gallu gwneud rhywbeth cyfoes, perthnasol i bobl ifanc,” meddai Andrew Coomber.

“Dyna pam y gwnes i greu dyluniad abstract a dw i’n hapus iawn mod i wedi llwyddo i greu rhywbeth mor wahanol.

“Doeddwn i ddim eisiau gwneud coron gyda band traddodiadol felly fe wnes i greu coron oedd ond yn cyffwrdd y pen – rhywbeth modern, gwahanol.

“Mae’r dur yn rhoi ychydig o sglein iddi ac rwyf wedi defnyddio siâp y gorwel o Lannau Merswy yn edrych draw am Fflint a ffordd groes.”