Sioned Hughes (Prif Weithredwr yr Urdd), Jeremy Griffiths (Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod) a Pamela McClean (Pennaeth Ysgol Uwchradd y Fflint) ar safle'r maes yn Sir y Fflint
Mae’r gwaith o baratoi’r maes ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Sir y Fflint wedi dechrau’n swyddogol heddiw.

Yn ôl y trefnwyr, mae’n cymryd chwe wythnos i gael y safle’n barod, gyda’r traciau’n cael eu gosod yn ystod yr wythnos gyntaf, a’r prif strwythurau yn yr ail wythnos.

Mae disgwyl i’r pafiliwn fod ar ei draed erbyn y drydedd wythnos, a’r stondinau yn yr wythnosau olaf.

Mae’r trefnwyr yn disgwyl y bydd tua 15,000 o bobol ifanc yn cystadlu yn ystod yr wythnos, ac fe fydd nifer o’r rhagbrofion yn cael eu cynnal yn Ysgol Uwchradd y Fflint.

“Mae’n wych gweld y gwaith yn cychwyn ar ôl yr holl ymdrech mae pawb wedi ei wneud hyd yn hyn,” meddai Jeremy Griffiths, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith lleol yr Eisteddfod.

‘Anhygoel’

Fe groesawodd Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Siôn, y gwaith heddiw gan ddweud: “Mae’n anhygoel beth y gallan nhw ei gyflawni mewn chwe wythnos wrth drawsnewid cae gwyrdd yn safle gweithredol yn barod i groesawu ieuenctid a theuluoedd o bob cwr o Gymru.”

Fe fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal rhwng 30 Mai – 4 Mehefin eleni, gyda chyngerdd agoriadol ar y nos Sul gyntaf yng nghwmni prif leisydd band The Alarm, sef Mike Peters.

Fe fydd hefyd mwy na 200 o blant a phobol ifanc yr ardal yn cymryd rhan mewn dwy sioe gerdd yn ystod yr ŵyl, gyda’r sioe ‘Fflamau’r Fflint’ yn seiliedig ar ganeuon y gantores Caryl Parry Jones.