Gwilym Owen
Mae’r colofnydd Gwilym Owen wedi cyhoeddi nad yw am ddileu ei aelodaeth o Lys yr Eisteddfod Genedlaethol ar ôl rhybuddio y byddai’n gwneud hynny tros sywladau gan Lywydd y Llys mewn llythyr yn y cylchgrawn Golwg cyn y Nadolig.

Mae’r Brifwyl bellach wedi ymddiheuro am rai cymalau yn y llythyr ac mae Gwilym Owen wedi derbyn yr ymddiheuriad hwnnw mewn datganiad i golwg360.

“Gan fod swyddogion yr Eisteddfod Genedlaethol wedi syrthio ar eu bai ac ymddiheuro am y sylwadau personol a chamarweiniol a wnaed amdanaf ym mharagraff olaf y llythyr a gyhoeddwyd yn Golwg ar Ragfyr 17 2015, rwyf wedi penderfynu peidio ymddiswyddo o Lys yr Eisteddfod,” meddai.

‘Syndod, dicter a siom’

 

Cyn yr ymddiheuriad, dywedodd Gwilym Owen yn ei golofn yn y rhifyn hwn o gylchgrawn Golwg, fod “y syndod, y dicter a’r siom” wedi’i daro fel gordd ar ôl darllen paragraff ola’ llythyr gan y Llywydd, Garry Nicholas, yn beirniadu un o’i golofnau.

Roedd y paragraff ola’, meddai, yn “gwbl anfaddeuol” gan ddweud ei fod yn “cyfeirio yn nawddoglyd hunangyfiawn at fy henaint a’m harfer dieflig o guddio y tu ôl i’m colofn yn Golwg’.

Roedd Gwilym Owen wedi codi nifer o gwestiynau am benderfyniadau gan Gyngor a Bwrdd Rheoli’r sefydliad.

Ageism ar ei waetha”

Wrth ymateb, roedd llythyr Garry Nicholas yn dweud bod Llys yr Eisteddfod wedi cefnogi’r penderfyniadau a bod Gwilym Owen yn aelod o’r Llys.

Ond roedd hefyd wedi dweud y byddai’n fodlon enwebu Gwilym Owen i fod yn aelod o’r Cyngor, gan ychwanegu: ‘Wedi’r cyfan mae’r Eisteddfod yn hollgynhwysol ac mae lle i rywun o’i oed ef ar y Cyngor o hyd. Gallai wedyn leisio’i farn wyneb yn wyneb yn hytrach na chuddio y tu ôl i erthygl mewn cylchgrawn fel Golwg.’

Mewn stori yn Golwg yr wythnos hon, fe roddodd Gwilym Owen ei ymateb i hynny: “Dyma ageism ar ei waetha a tasen i’n mynd at Gomisiynydd Hen Bobol Cymru dyna’r fath o gŵyn fasech chi’n gwneud, eich bod yn cael eich trin yn wahanol am eich bod yn hen…”

Y golofn a’r stori’n llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg.