Llun g360
Fe fydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn casglu atgofion pobol am Bafiliwn Pinc y Brifwyl, wrth iddyn nhw baratoi at ddefnyddio pafiliwn newydd y flwyddyn nesa’.

Mae’r Eisteddfod wedi creu cyfle i bobol anfon atgofion a lluniau am yr adeilad a gafodd ei ddefnyddio am ddeng mlynedd, gan ddechrau yn 2006 yn Abertawe.

Y gantores Katherine Jenkins oedd y gynta’ i berfformio ynddo, yng nghyngerdd agoriadol eisteddfod y flwyddyn honno a’r enillwyr cynta’ oedd Band Glyn-Nedd. Yr enillydd unigol cynta’ oedd Eilir Pryce o Aberystwyth yng nghystadleuaeth y Llefaru o’r Ysgrythur o dan 16 oed.

Ond, yn ôl yr Eisteddfod, y cystadleuydd sydd wedi ymddangos amla’ ar y llwyfan yw’r canwr Steffan Rhys Hughes, sydd wedi mynd trwy’r rhagbrofion 41 o weithiau mewn deng mlynedd.

Mae modd anfon atgofion at gyfeiriad e-bost gwyb@eisteddfod.org.uk